acyfeiriad at Salm 110:1
cJeremeia 31:31-34 (LXX)

Hebrews 8

Archoffeiriad y drefn newydd

1Y pwynt ydy hyn: mae'r Archoffeiriad sydd gynnon ni wedi eistedd yn y sedd anrhydedd yn y nefoedd, ar yr ochr dde i'r Duw Mawr ei hun. a 2Dyna'r cysegr mae hwn yn gweini ynddo – y ganolfan addoliad go iawn sydd wedi ei chodi gan yr Arglwydd ei hun, a dim gan unrhyw berson dynol. 3A chan fod rhaid i bob archoffeiriad gyflwyno rhoddion ac aberthau i Dduw, roedd rhaid i Iesu hefyd fod â rhywbeth ganddo i'w gyflwyno.

4Petai'r gweini hwn yn digwydd ar y ddaear, fyddai Iesu ddim yn gallu bod yn offeiriad, am fod offeiriaid eisoes ar gael i gyflwyno'r rhoddion mae'r Gyfraith Iddewig yn eu gorchymyn. 5Ond dim ond copi o'r ganolfan addoliad go iawn yn y nefoedd ydy'r cysegr maen nhw'n gweini ynddo. Dyna pam wnaeth Duw roi'r rhybudd hwn i Moses pan oedd yn bwriadu codi'r babell yn ganolfan addoliad: “Gwna'n siŵr dy fod yn gwneud popeth yn union fel mae yn y cynllun welaist ti ar y mynydd.” b 6Ond mae'r gwaith offeiriadol gafodd ei roi i Iesu yn llawer iawn pwysicach na'r gwaith maen nhw'n ei wneud fel offeiriaid. Ac mae'r ymrwymiad mae Iesu'n ganolwr iddo yn well na'r hen un – mae wedi ei wneud yn ‛gyfraith‛ sy'n addo pethau llawer gwell.

7Petai'r drefn gyntaf wedi bod yn ddigonol fyddai dim angen un arall. 8Ond roedd bai ar y bobl yng ngolwg Duw, a dyna pam ddwedodd e:

“‘Mae'r amser yn dod,’ meddai'r Arglwydd,
‘pan fydda i'n gwneud ymrwymiad newydd
gyda phobl Israel a Jwda.’
9‘Fydd hwn ddim yr un fath â'r un
wnes i gyda'u hynafiaid
(pan afaelais yn eu llaw
a'u harwain allan o'r Aifft).
Wnaethon nhw ddim cadw
eu hochr nhw o'r cytundeb,
felly dyma fi'n troi fy nghefn arnyn nhw,’
meddai'r Arglwydd.
10‘Dyma'r ymrwymiad fydda i'n ei wneud
gyda phobl Israel bryd hynny,’ meddai'r Arglwydd:
‘Bydd fy neddfau'n glir yn eu meddyliau
ac wedi eu hysgrifennu ar eu calonnau.
Fi fydd eu Duw nhw,
a nhw fydd fy mhobl i.
11Fyddan nhw ddim yn gorfod dysgu pobl eraill,
a dweud wrth ei gilydd,
“Rhaid i ti ddod i nabod yr Arglwydd,”
achos bydd pawb yn fy nabod i,
o'r lleia i'r mwya.
12Bydda i'n maddau iddyn nhw am y pethau wnaethon nhw o'i le,
ac yn anghofio eu pechodau am byth.’” c

13Trwy ddefnyddio'r gair ‛newydd‛ i ddisgrifio'r ymrwymiad yma, mae Duw'n dweud fod y llall yn hen. Os ydy rhywbeth yn hen ac yn perthyn i'r oes o'r blaen, yn fuan iawn mae'n mynd i ddiflannu'n llwyr!

Copyright information for CYM